Registered Charity in England and Wales 1176577 Moelyci, Tregarth, Bangor  ·  info@snowdoniadonkeys.com

Volunteer with us

Gwirfoddoli efo ni

English

Ymunwch â’r criw

Mae’n hasynnod ni’n dibynnu ar bobl garedig a dibynadwy. Dwedwch chydig amdanoch chi’ch hun ac mi fyddwn ni’n cysylltu am sgwrs gyfeillgar. Mae’n cymryd tua 10 munud.

Rhaid llenwi’r meysydd sydd â * wrthyn nhw.

Amdanoch chi

Y ffordd orau o gysylltu â chi

Oed

Mae’n ddrwg gynnon ni, allwn ni ddim derbyn gwirfoddolwyr dan 14 oed ar eu pennau eu hunain. Mae croeso i deuluoedd yn ein digwyddiadau ni.

Eich pen-blwydd (dewisol)

Diwrnod a mis yn unig, dim blwyddyn. Dim ond er mwyn i ni allu dymuno pen-blwydd hapus i chi dan ni’n gofyn.

Dach chi’n siarad Cymraeg? (dewisol)

Ydych chi’n fyfyriwr ar leoliad?

Chi a’r asynnod

Dim profiad o gwbl? Dim problem: mi wnawn ni ddangos y ffordd i chi.

Pryd a beth

Pa ddyddiau allech chi helpu fel arfer?

Boreau neu pnawniau?

Pa mor aml?

Efo beth hoffech chi helpu?

Er enghraifft mynediad heb risiau, amser tawelach, neu rywun i’ch cyfarfod chi. Peidiwch â rhoi manylion meddygol yma, plis; mi wnawn ni holi’n gyfrinachol am unrhyw beth perthnasol os byddwch chi’n ymuno efo ni.

Geirdaon

Rhowch enwau dau berson sy’n eich adnabod chi (nid teulu), er enghraifft cyflogwr, athro neu rywun dach chi wedi gwirfoddoli efo nhw.

Canolwr 1

Canolwr 2

Cyswllt mewn argyfwng

Dewisol am rŵan. Os byddwch chi’n ei adael yn wag, mi wnawn ni ofyn amdano pan fyddwch chi’n dechrau.

Gwiriad DBS

Mae ambell rôl, fel mynd â’r asynnod i ysgolion neu gartrefi gofal, yn gallu golygu gweithio efo plant neu oedolion sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Os ydi rôl yn gymwys i gael gwiriad DBS, mi wnawn ni ei drefnu am ddim. Does dim angen un ar gyfer y rhan fwya o waith gwirfoddol efo’r asynnod. Hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y rolau yma?

Datganiad a’ch data

Sut dan ni’n defnyddio’ch manylion chi

  • Asynnod Eryri (Moelyci, Tregarth, Bangor) sy’n gyfrifol am y manylion ar y ffurflen yma. Cwestiynau am eich data: info@snowdoniadonkeys.com.
  • Dan ni’n defnyddio’ch manylion ar sail ein buddiannau dilys ni wrth recriwtio a threfnu gwirfoddolwyr yn ddiogel: i ystyried eich cais, cysylltu efo chi a’ch canolwyr, a threfnu gwirfoddoli. Mae gynnoch chi hawl i wrthwynebu hyn.
  • Mae’ch pen-blwydd yn ddewisol. Dim ond y diwrnod a’r mis dan ni’n eu gofyn (nid y flwyddyn), er mwyn i ni allu dymuno pen-blwydd hapus i chi os byddwch chi’n gwirfoddoli efo ni.
  • Dim ond y bobl sy’n cydlynu gwirfoddolwyr sy’n gweld eich cais. Dan ni’n cysylltu efo’r canolwyr dach chi’n eu henwi. Mae’n darparwyr gwefan ac e-bost yn ei gadw ar ein rhan ni. Dan ni byth yn gwerthu’ch manylion na’u defnyddio nhw ar gyfer marchnata.
  • Os na fyddwch chi’n mynd ymlaen i wirfoddoli, mi fyddwn ni’n dileu’ch cais 6 mis ar ôl ein penderfyniad.
  • Mae gynnoch chi hawl i weld, cywiro, dileu neu gyfyngu ar eich data ac i wrthwynebu sut dan ni’n ei ddefnyddio; mae terfynau ar rai hawliau. Cysylltwch â info@snowdoniadonkeys.com.
  • Os dach chi’n anhapus, mi gewch chi gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: ico.org.uk/make-a-complaint neu 0303 123 1113.

Mae rhagor o fanylion yn ein polisi preifatrwydd.

Dan ni’n croesawu gwirfoddolwyr o bob cefndir, oed (14+), gallu a hunaniaeth, a dan ni’n hapus i wneud addasiadau rhesymol. Dan ni’n dewis gwirfoddolwyr ar sail eu diddordeb a pha mor addas ydyn nhw i’r rôl.

Translate »
Website by Tailored Digital